Home > Events > UK regions and branches > Wales > Welsh translation

Cymru

Gwlad fechan. Uchelgais fawr.

Yn cynrychioli ac yn hyrwyddo marchnata proffesiynol.

Key contact Richard Houdmont
Email Cysylltu â Richard
Phone 07500085468

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg neu yn Saesneg

 

Welcome

Croeso

Mae'n bleser gan y Sefydliad gynnig i farchnatwyr yng Nghymru amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n adlewyrchu nodweddion newidiol gweithgareddau marchnata a busnes ledled Cymru.

Mae'r economi yng Nghymru yn gymhleth: mae safle gweithgynhyrchu mwyaf y Deyrnas Unedig wedi'i leoli yma, ac eto prin yw'r cwmnïau mawrion sydd â'u pencadlys yng Nghymru. Mae'r economi yn cynnwys sectorau sy'n bwysig o safbwynt strategol, a'r rheini'n amrywio o aerofod a biowyddoniaeth i'r diwydiannau creadigol – heb anghofio sectorau eraill sy'n bwysig o safbwynt economaidd, megis bwyd, hamdden a thwristiaeth. Mae busnesau yng Nghymru fwyfwy'r dyddiau hyn yn meddwl, yn gweithredu ac yn marchnata'n fyd-eang.

Er bod y Sefydliad yn cefnogi nifer cynyddol o farchnatwyr yn y sector cyhoeddus ac mewn cyrff corfforaethol mwy eu maint, mae'n bosibl y bydd twf yn economi Cymru yn dibynnu fwyfwy ar sector y cwmnïau bach arloesol, creadigol ac entrepreneuraidd. Mae'r twf hwnnw yn ei dro yn fwyfwy dibynnol ar waith marchnata proffesiynol a wneir gan farchnatwyr proffesiynol a chanddynt gorff proffesiynol cadarn, uchel ei barch i'w cynrychioli.

Mae datblygiad proffesiynol yn allweddol er mwyn datblygu gyrfa, ac yr ydym yn eich annog i ddod i un o'n digwyddiadau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a chyfrannu at farchnata proffesiynol yng Nghymru.  

Our activities

Ein gweithgareddau

Ym mis Hydref 2008 bu inni lansio Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru. Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth o ran syniadau a rhoi'r syniadau hynny ar waith. Ceir pwyslais ar y ffaith fod marchnata'n ymestyn y tu hwnt i'r diffiniad traddodiadol o'r maes a'u bod, felly, yn wobrau heb ffiniau, heb unrhyw gategorïau, terfynau na chyfyngiadau ffals.

Mae manylion enillwyr 2009 a'r cyfleoedd i noddi ar gyfer 2010 i'w gweld yn yr adran 'related downloads'.

Gweler 'related downloads' a hefyd y dolenni yn y ddewislen ar y chwith i dudalennau canghennau'r Gogledd a'r De am adolygiadau (yn Saesneg) o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghymru.

Mae Bwrdd Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Rhaglen Adnewyddu'r Economi Llywodraeth Cynulliad Cymru. Am fanylion, gweler yr ymateb i Raglen Adnewyddu'r Economi dan 'related downloads'.

Yr ydym yn rhoi cefnogaeth ariannol i nifer o Gymunedau Myfyrwyr ledled Cymru. Cymdeithasau myfyrwyr yw'r rhain, sy'n cael eu cefnogi gan fentor academaidd, ar gyfer y bobl hynny sydd â'u bryd ar ddilyn gyrfa ym maes marchnata. Am ragor o fanylion ewch i 'related downloads'.

Upcoming events   RSS

24
May 2012

Radio yn yr oes ddigidol
Location: Bangor
Status: Cancelled

 

21
June 2012
 

5
October 2012

Canmol: Wales Marketing Awards 2012
Speaker: TBC
Location: Cardiff

 

18
October 2012

Talking Titanic: what can marketers learn from 'the unsinkable brand'?
Speaker: Professor Stephen Brown
Location: Cardiff

 

31
October 2012

Sports marketing: insights for other sectors
Speaker: TBC
Location: Swansea

 

Related downloads

To download a file right-click and select "save as...".

Related websites

The Institute is not responsible for external internet sites.